CYNLLUNIO
STRATEGAETHAUStrategaeth: Trafodaeth Rydd
Gweithgaredd llai strwythuredig er mwyn hybu trafodaeth dan arweiniad y dysgwyr.
Addas ar gyfer:
Agwedd i’w datblygu:
Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:
Gwrando
- Gwrando am ystyr
- Datblygu geirfa
- Gwrando i ddeall
- Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol
Siarad
- Eglurder a geirfa
- Diben
- Siarad cydweithredol
- Gofyn cwestiynau
Arweiniad pellach i’r strategaeth:
Mae’r math yma o drafodaeth yn cael ei arwain gan y dysgwyr yn bennaf ac nid oes strwythur pendant iddo. Mae cyfeiriad y sgwrs yn datblygu yn naturiol.
Gall trafodaeth rydd ddechrau mewn dwy ffordd. Gall yr athro gyflwyno testun trafod i’r dosbarth neu gall yr athro ofyn wrth y dysgwyr ddewis testun o blith amryw i’w drafod. Os yn dewis yr ail ddull, gall y dysgwyr gynnal pleidlais i benderfynu ar ei testun trafod.
Mae’r athro yn hwyluso’r drafodaeth ond y dysgwyr sy’n ei lywio ac yn dewis sut i gynnal y drafodaeth. Yn dilyn y drafodaeth, dylid cynnal sesiwn fyfyrio er mwyn gallu adnabod beth weithiodd yn dda a beth ddylid ei fireinio a’i wella. Me trafodaeth rydd yn gweithio’n dda pan fo’r testun dan sylw yn gynhennus, yn benagored ac yn arwain at yr angen i ffurfio barn. O ganlyniad, bydd y dysgwyr yn gallu siarad yn fwy helaeth am y testun heb ormod o gynhaliaeth neu strwythur.
Wrth fyfyrio gellid gofyn y cwestiynau yma:
- Beth ddysgwyd o’r drafodaeth?
- Beth oedd ansawdd cyfraniadau i’r drafodaeth?
- Oedd y sgwrs wedi arwain at drafod y testun mewn manylder?
- Sut allwn ni wella’r drafodaeth tro nesaf?
- Ydy’n dealltwriaeth o’r testun dan sylw wedi gwella o ganlyniad i’r drafodaeth?
Yn ogystal, gellid dynodi rôl i rai dysgwyr er mwyn hwyluso’r drafodaeth e.e. Amserydd, cwestiynwr, cofnodwr, arweinydd a chrynhowr.
Arweiniad ychwanegol ar gyfer 3-8 oed
Llwybrau Datblygu – mynegi fy anghenion, fy meddyliau, fy nheimladau, fy syniadau a fy marn, talu sylw i bobl eraill.
Mae’r math yma o drafodaeth yn cael ei arwain gan y dysgwyr yn bennaf ac nid oes strwythur pendant iddo. Mae cyfeiriad y sgwrs yn datblygu yn naturiol.
Gall trafodaeth rydd ddechrau mewn dwy ffordd. Gall yr athro gyflwyno testun trafod i’r dosbarth neu gall yr athro ofyn wrth y dysgwyr ddewis testun o blith amryw i’w drafod. Os yn dewis yr ail ddull, gall y dysgwyr gynnal pleidlais i benderfynu ar eu testun trafod.
Mae’r athro yn hwyluso’r drafodaeth ond y dysgwyr sy’n ei lywio ac yn dewis sut i gynnal y drafodaeth.
Ffilmio’r drafodaeth – mae posib rhoi’r cyfrifoldeb yma i un o’r dysgwyr fel ei fod yn digwydd yn fwy naturiol. Chwarae’r clip yn ôl a gofyn i’r dysgwyr fyfyrio ar y drafodaeth. Sut allwn ni wella’r drafodaeth tro nesaf? Oes posib clywed pawb yn trafod yn glir? Oes ‘na fylchau lle nad oes neb yn siarad?
Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:
Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf
Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/
Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/
Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)
- Athrawon GwE – cysylltwch gyda’ch YCG neu dîm Ein Llais Ni (einllaisni@gwegogledd.cymru) i gael mynediad i’r adnoddau hyn.