CYNLLUNIO
STRATEGAETHAUStrategaeth: Meddwl-paru-rhannu
Dull yn caniatáu dysgwyr i fod yn meddwl a siarad am destun mewn tri rhan – meddwl, paru a rhannu. Mae pob cam yn adeiladu ar y cam blaenorol.
Addas ar gyfer:
Agwedd i’w datblygu:
Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:
Gwrando
- Gwrando am ystyr
- Datblygu geirfa
- Gwrando i ddeall
- Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol
Siarad
- Eglurder a geirfa
- Diben
- Siarad cydweithredol
- Gofyn cwestiynau
Arweiniad pellach i’r strategaeth:
Dull yn caniatáu dysgwyr i fod yn meddwl a siarad am destun mewn tri rhan – meddwl, paru a rhannu. Mae pob cam yn adeiladu ar y cam blaenorol.
Mae cwestiwn neu ddatganiad yn cael ei osod i’r dysgwyr. Rhoddir amser i ddysgwyr feddwl yn unigol gan wneud nodiadau i’w helpu. Yna rhoddir amser i drafod eu syniadau gyda phartner. Yn olaf, mae’r pâr yn rhannu eu syniadau â grŵp mwy neu weddill y dosbarth. Mae hyn yn helpu i ymestyn amser meddwl ac yn cynnig modd i ddysgwyr ddatblygu atebion mwy soffistigedig nag y gallen nhw ei wneud mewn sesiwn holi arferol. Mae hefyd yn cefnogi dysgwyr amharod/dysgwyr sydd â hunanhyder isel a’u cael i gyfrannu.
Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:
Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf
Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/
Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/
Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)
- Athrawon GwE – cysylltwch gyda’ch YCG neu dîm Ein Llais Ni (einllaisni@gwegogledd.cymru) i gael mynediad i’r adnoddau hyn.