ENGHREIFFTIAU
YSGOLIONYsgol Gynradd Llanllechid
3-8 oed
8-11 oed
11-14 oed
14-16 oed
Datblygu rolau trafod mewn cyd-destun lleol
Bwriad
Cyd-destun:
- Datblygu rolau trafod i fynegi syniadau, cyflwyno a gwerthfawrogi gwahanol safbwyntiau
- Datblygu geirfa gyfoethog a defnydd o idiomau
Gweithredu:
- Cyflwyno erthygl bapur newydd fel sbardun i ganfod barn ac i drafod gwahanol safbwyntiau ar y cwestiwn mawr sef: “Ydi hi’n iawn fod Chwarel Penrhyn yn dymchwel corlan yn yr ardal leol er mwyn ehangu eu busnes?”
- Dysgwyr yn cynnal trafodaeth heb unrhyw waith paratoi (tasg oer), recordio a myfyrio ar y sgwrs er mwyn adnabod camau nesaf a MPLl.
- Cyflwyno rolau trafod, fframiau siarad a geirfa a chystrawen bwrpasol.
Cymryd rhan mewn trafodaeth bellach (tasg boeth) a myfyrio ar y cynnydd
Effaith
- Pob dysgwr yn ymroi yn llwyddiannus i’r dasg ac yn gallu mynegi eu hunain yn glir gan ddefnyddio’r eirfa a’r cystrawennau brawddeg gyflwynwyd
- Y dysgwyr yn gallu ymgymryd â rolau e.e. crynhowr, cadeirydd ayyb yn hyderus.
- Dyfnhau dealltwriaeth y dysgwyr o faterion lleol
- Y dysgwyr yn gallu mynegi barn yn glir gan roi rhesymau dilys i’w cefnogi