CYNLLUNIO
ADNODDAU CEFNOGOLCasgliad o adnoddau y gellid eu defnyddio ar gyfer cefnogi’r dysgu ac er mwyn sgaffaldio’r siarad a gwrando. Ceir enghreifftiau o gardiau, fframiau/sgaffaldiau, matiau siarad, canllawiau trafod y gellir eu defnyddio gyda dysgwyr (ac ymarferwyr) i ddyfnhau eu dealltwriaeth, magu hyder a datblygu iaith.
Rolau trafod
Cardiau i’w defnyddio gyda’r dysgwyr wrth sefydlu rolau trafod. Mae’n gosod y rôl yn eglur ac yn cynnig bonion brawddeg ar gyfer datblygu’r iaith briodol.
3-8 oed
8-11 oed
11-14 oed
14-16 oed
Rolau Trafod
Fframiau Siarad
Cyfres o fframiau siarad i sgaffaldio’r iaith wrth ddatblygu sgiliau:
- rhoi cyfarwyddiadau
- cyflwyno gwybodaeth
- mynegi barn
- disgrifio
- perswadio
- esbonio
3-8 oed
8-11 oed
11-14 oed
14-16 oed
Fframiau Siarad
Dull Blank – lefelau o gwestiynu
Fframwaith gwestiynu ar 4 lefel sy’n dechrau gyda’r cwestiynau concrit syml i’r rhai cymhleth a mwy haniaethol. Mae’r fframwaith yma’n annog y datblygiad o eirfa a iaith bob dydd ynghyd â datblygu sgiliau deall, rhesymu, rhagfynegi, dod i gasgliad a datrys problemau.
3-8 oed
8-11 oed
11-14 oed
14-16 oed
Dull Blank - lefelau o gwestiynu
Fframiau Gwrando
Cyfres o fframiau gwrando sy’n sgaffaldio’r dysgu trwy gefnogi’r dysgwyr i roi trefn ar yr hyn a glywir.
3-8 oed
8-11 oed
11-14 oed
14-16 oed
Fframiau Gwrando
Templedi cyflwyno Strategaethau i ddysgwyr
Templedi parod i’w defnyddio wrth gyflwyno strategaethau penodol i ddysgwyr.
Mae posib gwneud copi o’r ddogfen a’i haddasu yn ôl gofynion eich tasg.