ENGHREIFFTIAU
YSGOLIONYsgol David Hughes
3-8 oed
8-11 oed
11-14 oed
14-16 oed
Strategaeth: Taro’r Targed
Bwriad
Cyd-destun:
Tasg yn dilyn darllen stori Chwedl Neidr Penhesgyn.
Gweithredu:
- Cyflwyno taflen yn cynnwys geiriau allweddol o’r stori.
- Y dysgwyr yn ail adrodd y stori yn eu geiriau eu hunain gan ddefnyddio’r eirfa darged gan dderbyn pwyntiau ar ddefnyddio geiriau penodol.
- Y dysgwyr yn sgorio gwaith ei gilydd gan gynnig adborth ar yr hyn wnaethpwyd yn dda a chynnig lle i wella.
Effaith
- Hyder y disgybl wedi datblygu yn llwyddiannus
- Dealltwriaeth o’r stori wedi dyfnhau
- Y strategaeth wedi gwella safon iaith y dysgwyr gan eu bod yn ymwybodol o dermau allweddol a’r angen i’w defnyddio mewn gwaith llafar