ENGHREIFFTIAU

YSGOLION

Ysgol Gynradd Llanllechid

3-8 oed

8-11 oed

11-14 oed

14-16 oed

Datblygu rolau trafod mewn cyd-destun lleol

Bwriad

Cyd-destun:

  • Datblygu rolau trafod i fynegi syniadau, cyflwyno a gwerthfawrogi gwahanol safbwyntiau
  • Datblygu geirfa gyfoethog a defnydd o idiomau

Gweithredu:

  • Cyflwyno erthygl bapur newydd fel sbardun i ganfod barn ac i drafod gwahanol safbwyntiau ar y cwestiwn mawr sef: “Ydi hi’n iawn fod Chwarel Penrhyn yn dymchwel corlan yn yr ardal leol er mwyn ehangu eu busnes?”
  • Dysgwyr yn cynnal trafodaeth heb unrhyw waith paratoi (tasg oer), recordio a myfyrio ar y sgwrs er mwyn adnabod camau nesaf a MPLl.
  • Cyflwyno rolau trafod, fframiau siarad a geirfa a chystrawen bwrpasol.

Cymryd rhan mewn trafodaeth bellach (tasg boeth) a myfyrio ar y cynnydd

Effaith

  • Pob dysgwr yn ymroi yn llwyddiannus i’r dasg ac yn gallu mynegi eu hunain yn glir gan ddefnyddio’r eirfa a’r cystrawennau brawddeg gyflwynwyd
  • Y dysgwyr yn gallu ymgymryd â rolau e.e. crynhowr, cadeirydd ayyb yn hyderus.
  • Dyfnhau dealltwriaeth y dysgwyr o faterion lleol
  • Y dysgwyr yn gallu mynegi barn yn glir gan roi rhesymau dilys i’w cefnogi