CYSYLLTU Â NI
Cwblhewch y ffurflen ganlynol:
Mae rhaglen Ein Llais Ni (a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru) yn cefnogi arweinwyr ac ymarferwyr i ddatblygu medrau siarad a gwrando Cymraeg ar draws y cwricwlwm o 3-16 oed.
Fe’i awdurwyd gan Catrin Fflur Roberts, Osian Hughes, Dafydd Roberts, Nicola Hughes, Bleddyn Humphreys, Eleri Llewelyn Owen, Sharon Wyn Jones a Gwawr Eleri Thomas.
Os oes sylwadau, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
@einllaisni
Ebost
Cynnwys y Wefan
Pam Llafaredd?
Arweiniad a mannau cyfeirio i athrawon ar bwysigrwydd llafaredd fel y gallent roi cynnig ar strategaethau amrywiol yn ôl anghenion eu dysgwyr.
Cynllunio
Mynediad at strategaethau ac arferion cynllunio effeithiol yn ogystal âg adnoddau i gefnogi dysgu proffesiynol. Awgrymiadau ar rôl technoleg ddigidol i gyfoethogi’r addysgu a’r dysgu.
Arwain
Arweiniad ac adnoddau ar gyfer arweinwyr llafaredd yr ysgolion – y camau ymarferol y gellid eu dilyn yn ogystal ag adnoddau cefnogol i’w gwireddu.
Dysgu Proffesiynol
Mynediad at gyflwyniadau ymarferol a recordiadau o weminarau i’w defnyddio mewn sesiynau Dysgu Proffesiynol o fewn ysgol neu glwstwr.