ARWAIN EIN LLAIS NI
RHOI AR WAITHCamau Cychwynnol
Dyma weithredu enghreifftiol y gellir ei ddilyn neu ei addasu er mwyn datblygu ac arwain yr ysgol i ddatblygu sgiliau llafaredd (siarad a gwrando):
-
Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd llafaredd o fewn y cwricwlwm drwy adnoddau Ein Llais Ni ac ymchwil ehangach – arweinydd y maes yn uwchsgilio ei hun
Pam Llafaredd?
- Sicrhau cyfranogiad gan y staff i sefydlu gweledigaeth ysgol gyfan ar gyfer ‘Llafaredd ar draws y cwricwlwm’
Creu Gweledigaeth
- Er mwyn adnabod yr hyn sydd angen ei ddatblygu mewn perthynas â llafaredd, bydd angen dealltwriaeth gadarn o’r isod:
- Beth yw’r negeseuon o brosesau hunan werthuso’r ysgol?
- Beth yw effaith y gweithredu ar yr addysgu a’r dysgu?
Adnodd hunanwerthuso dysgu ac addysgu
-
- Beth sydd angen ei flaenoriaethu e.e. ei weithredu drwy gynllun datblygu’r ysgol?
-
- Yn realistig, lle hoffai’r ysgol fod mewn blwyddyn – gosod cerrig milltir eglur ac adnabod y dulliau canfod gwybodaeth e.e. holiaduron gwaelodlin ar ddechrau a diwedd y cyfnod gweithredu, trafodaethau staff, cynlluniau staff, arsylwadau gwersi, teithiau dysgu, cyfweliadau gyda dysgwyr a staff.
Datblygu a mesur effaith (PDF)
Datblygu a mesur effaith (Word)
Gweithredu a gwreiddio Ein Llais Ni
- Adnabod y gwaelodlin mewn perthynas â’r sefyllfa gyfredol o safbwynt y dysgwyr a’r athrawon
Holiadur Ein Llais Ni i ddysgwyr 3 - 8 oed
Holiadur Ein Llais Ni i ddysgwyr 8 - 14 oed
Holiadur Ein Llais Ni i ymarferwyr
- Edrych ar enghreifftiau o ysgolion i gael blas ar weithredu llwyddiannus
- Adnabod anghenion dysgu proffesiynol y staff.
- Llunio cwestiwn ymholi ar sail yr hyn sydd angen ei ddatblygu e.e. ‘I ba raddau mae. . . yn effeithiol fel dull o wneud gwahaniaeth . . .?’
- Ymgyfarwyddo efo’r camau gweithredu enghreifftiol er mwyn gweld model o gynllun strategol
Rhoi ar waith
Pa fath o weithredu sydd angen digwydd wrth ddechrau ar y gwaith?
Beth sydd angen ei ddarganfod a’i ddeall?
Dyfnhau
Wrth i’r gwaith ddatblygu, beth sydd yno i gefnogi cynnydd pellach?
Beth ellir ei wneud i ledaenu’r gwaith ar draws yr ysgol?
Gwerthuso a Gwreiddio
Sut mae sicrhau fod y newid yn un hir-dymor ac wedi’w ledaenu ar draws yr ysgol a chwricwlwm yr ysgol?