CYNLLUNIO
STRATEGAETHAUStrategaeth: Beth yw’r stori?
Bydd y dysgwyr mewn grwpiau yn derbyn cyfres o luniau i’w rhoi yn eu trefn gan ddod i gytundeb ynglŷn â’r drefn honno.
Addas ar gyfer:
Agwedd i’w datblygu:
Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:
Gwrando
- Gwrando am ystyr
- Datblygu geirfa
- Gwrando i ddeall
- Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol
Siarad
- Eglurder a geirfa
- Diben
- Siarad cydweithredol
- Gofyn cwestiynau
Arweiniad pellach i’r strategaeth:
Mae strategaeth Beth yw’r stori? yn annog disgyblion i drafod cysyniad newydd gan ddefnyddio geirfa pynciol o fewn cyd-destun a rhoi trefn ar ddigwyddiad / broses.
Bydd angen rhannu’r dysgwyr i grwpiau addas (oddeutu 3-6) a chyflwyno cyfres o luniau heb eu trefnu. Caiff y dysgwyr gyfle i drafod a threfnu’r lluniau. Wrth i’r drafodaeth fynd yn ei blaen, gellir cyflwyno patrymau brawddeg a geirfa allweddol iddynt ddefnyddio. Erbyn diwedd y drafodaeth, dylai’r disgyblion ddod i gytundeb ar y drefn a medru adrodd yn ôl i’r dosbarth.
Mae’r strategaeth y rhoi cyfle i ddisgyblion ddefnyddio gwybodaeth blaenorol i helpu gynnal trafodaeth i drefnu’r lluniau yn ogystal â defnyddio’r patrymau brawddeg a geirfa er mwyn gwella safon y drafodaeth.
Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:
Prosiect Llafaredd CCD – Beth yw’r stori?
https://sites.google.com/hwbcymru.net/prosiect-llafaredd-llais21/adnoddau/beth-ywr-stori
Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf
Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/
Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/
Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)
- Athrawon GwE – cysylltwch gyda’ch YCG neu dîm Ein Llais Ni (einllaisni@gwegogledd.cymru) i gael mynediad i’r adnoddau hyn.