CYNLLUNIO
STRATEGAETHAUStrategaeth: Bob amser, weithiau, byth
Gofyn i’r dysgwr ddewis cerdyn ‘Bob amser’, ‘Weithiau’ neu ‘Byth’ i gyd fynd â gosodiadau. Bydd gofyn i’r dysgwr gyfiawnhau dewis y cerdyn i gyd-fynd â’r gosodiad.
Addas ar gyfer:
Agwedd i’w datblygu:
Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:
Gwrando
- Gwrando am ystyr
- Datblygu geirfa
- Gwrando i ddeall
- Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol
Siarad
- Eglurder a geirfa
- Diben
- Siarad cydweithredol
- Gofyn cwestiynau
Arweiniad pellach i’r strategaeth:
Nôd y strategaeth yw cyflwyno datganiad i ddysgwyr a gofyn a ydyn nhw’n meddwl bod hyn yn wir pob amser, weithiau neu fyth. Mae’r dull yma yn fodd effeithiol o annog trafodaethau yn enwedig wrth ymdrin a rhesymu gan ei fod yn annog disgyblion i chwilio am dystiolaeth i gyfiawnhau a chefnogi eu syniadau.
Bydd angen i’r athro baratoi set o osodiadau i ymateb iddyn nhw yn ogystal â banc o eirfa mynegi barn a thrafod. Bydd y dysgwyr yn ymateb i’r gosodiadau gan ddwyn i gof unrhyw ddysgu blaenorol am gysyniad/pwnc/thema. Bydd disgwyl i’r disgyblion ymchwilio a chanfod tystiolaeth i gefnogi a chyfiawnhau eu barn. Gellir annog y dysgwyr i adeiladu ar, herio, crynhoi, egluro a phrocio syniadau ei gilydd.
Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:
Prosiect Llafaredd CCD – Bob amser, Weithiau, Byth
https://sites.google.com/hwbcymru.net/prosiect-llafaredd-llais21/adnoddau/bob-amser-weithiau-byth
Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf
Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/
Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/
Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)
- Athrawon GwE – cysylltwch gyda’ch YCG neu dîm Ein Llais Ni (einllaisni@gwegogledd.cymru) i gael mynediad i’r adnoddau hyn.