CYNLLUNIO
STRATEGAETHAUStrategaeth: Llwybr barn
Gofynnir i’r disgyblion ddewis ble maen nhw’n teimlo maen nhw’n gweld eu hunain ar ‘lwybr barn’. Mae’r llwybr yn mynd o un pwynt i bwynt arall neu o un gosodiad i osodiad arall (e.e. ‘llwybr’ neu linell o ‘Cytunaf yn bendant . . .’ i ‘Anghytunaf yn chwyrn’) ac mae’r disgyblion i nodi ar ba pwynt ar y ‘llwybr’ neu’r llinell hon maen nhw’n gweld eu hunain gan roi rhesymau.
Addas ar gyfer:
Agwedd i’w datblygu:
Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:
Gwrando
- Gwrando am ystyr
- Datblygu geirfa
- Gwrando i ddeall
- Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol
Siarad
- Eglurder a geirfa
- Diben
- Siarad cydweithredol
- Gofyn cwestiynau
Arweiniad pellach i’r strategaeth:
Gofynnir i’r dysgwyr ddewis ble maen nhw’n teimlo maen nhw’n gweld eu hunain ar ‘lwybr barn’. Mae’r llwybr yn mynd o un pwynt i bwynt arall neu o un gosodiad i osodiad arall (e.e. ‘llwybr’ neu linell o ‘Cytunaf yn gryf. . .’ i ‘Anghytunaf yn chwyrn’) Mae’r dysgwyr yn nodi ar ba pwynt ar y ‘llwybr’ neu’r llinell hon maen nhw’n gweld eu hunain gan roi rhesymau.
Mae sawl ffordd o gynrychioli’r Llwybr Barn yn y dosbarth:
- saeth dau ben ar daflen waith neu fwrdd gwyn.
- darn hir o linyn ar hyd y llawr neu uwch y pen
- dau ddarn o bapur ar waliau cyferbyn, un gyda ‘Cytuno’n gryf’ a’r llall gyda ‘Anghytuno’n gryf’ arnynt.
Bydd yr athro’n rhoi gosodiad i’r disgyblion ac mae angen iddyn nhw ddewis lle ar y Llwybr Barn sy’n cynrychioli eu teimladau. Mae angen trafod y rhesymau pam maen nhw wedi dewis y safle, gall hyn arwain at ddadl rhwng unigolion. Gellir ychwanegu ail a thrydydd datganiad ac ail adrodd y broses. Rhydd hyn y cyfle i’r athro a’r disgyblion brofi amrediad eang o ddatganiadau yn ymwneud â’r pwnc.
Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:
Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf
Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/
Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/
Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)
- Athrawon GwE – cysylltwch gyda’ch YCG neu dîm Ein Llais Ni (einllaisni@gwegogledd.cymru) i gael mynediad i’r adnoddau hyn.