CYNLLUNIO
STRATEGAETHAUStrategaeth: Mewn munud
Bydd gan y dysgwr 30 eiliad i baratoi ateb i’r cwestiwn neu’r gosodiad ac yna munud yn unig i siarad.
Addas ar gyfer:
Agwedd i’w datblygu:
Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:
Gwrando
- Gwrando am ystyr
- Datblygu geirfa
- Gwrando i ddeall
- Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol
Siarad
- Eglurder a geirfa
- Diben
- Siarad cydweithredol
- Gofyn cwestiynau
Arweiniad pellach i’r strategaeth:
Dyma weithgaredd sydd posib ei wneud fel pâr neu grŵp er mwyn archwilio a chyflwyno syniadau. Mae’r dasg yn codi hyder y disgyblion wrth siarad mewn grŵp.
Bydd angen i’r athro amlinellu’r dasg neu osod y pwnc. Caiff y disgyblion funud i archwilio eu syniadau a’u nodi ar bapur gludiog bach (mae posib addasu’r amser archwilio i siwtio’r dosbarth dan sylw). Yna, mae’r athro yn amseru munud ar y cloc a’r disgybl yn siarad am funud. Dylid annog y disgyblion i drafod am funud cyfan er mwyn adeiladu hyder a gwytnwch. Dylid annog y defnydd o ddechrau brawddegau i strwythuro’r dasg.
Arweiniad ychwanegol ar gyfer 3-8 oed
Llwybrau Datblygu – defnyddio iaith mewn ffordd chwareus a llawn hwyl.
Mae’r disgrifiad uchod yn addas ar gyfer dysgwyr 3 i 8 oed
Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:
Prosiect Llafaredd CCD – Mewn Munud
https://sites.google.com/hwbcymru.net/prosiect-llafaredd-llais21/adnoddau/mewn-munud
Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf
Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/
Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/
Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)
- Athrawon GwE – cysylltwch gyda’ch YCG neu dîm Ein Llais Ni (einllaisni@gwegogledd.cymru) i gael mynediad i’r adnoddau hyn.