CYNLLUNIO
STRATEGAETHAUStrategaeth: Taro’r targed
Mewn grwpiau, bydd y disgyblion yn cymryd eu tro i ateb cwestiwn ar destun penodol o fewn amser cyfyngedig (e.e. 1 munud) Wrth ateb, bydd angen defnyddio geiriau allweddol sydd â gwerth arbennig ar ‘y targed geirfa’ neu’r ‘targed termau’ e.e. geiriau cyffredin = 1 marc; geiriau heriol = 3 marc
Addas ar gyfer:
Agwedd i’w datblygu:
Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:
Gwrando
- Gwrando am ystyr
- Datblygu geirfa
- Gwrando i ddeall
- Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol
Siarad
- Eglurder a geirfa
- Diben
- Siarad cydweithredol
- Gofyn cwestiynau
Arweiniad pellach i’r strategaeth:
Mae Taro’r Targed yn profi dealltwriaeth o eirfa tra’n annog cystadleuaeth rhwng disgyblion er mwyn ennyn eu diddordeb a datblygu eu gallu i esbonio’n hyderus.
Mae angen i ddisgyblion eistedd mewn grwpiau o 4, mae pob disgybl yn cymryd tro i ateb cwestiwn ar destun arbennig o fewn amser cyfyngedig (e.e. 1 munud) Mae angen iddynt gynnwys cymaint o eirfa allweddol (mewn cyd-destun) ag sydd yn bosib fel rhan o’u hateb. Mae geirfa hawdd werth 1 pwynt, rhai canolig gwerth 2 a geirfa heriol werth 3 pwynt. Y dysgwr gyda’r sgôr mwyaf yw’r ennillydd
Bydd angen i’r athro ddewis cwestiwn addas ac agored a pharatoi geirfa allweddol i’w cynnwys. Mae hi’n bosib defnyddio bwrdd targed dartiau neu dabl
Wrth i’r disgyblion fod yn gwrando ar ei gilydd, rhaid iddynt sgorio eu cyfoedion a chynnig adborth ar y diwedd.
Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:
Prosiect Llafaredd CCD – Taro’r targed
https://sites.google.com/hwbcymru.net/prosiect-llafaredd-llais21/adnoddau/taror-targed
Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf
Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/
Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/
Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)
- Athrawon GwE – cysylltwch gyda’ch YCG neu dîm Ein Llais Ni (einllaisni@gwegogledd.cymru) i gael mynediad i’r adnoddau hyn.